Wythnos y Gwirfoddolwyr

Pob math o Gwirfoddoli 

Wythnos y Gwirfoddolwyr 1 – 7 Mehefin 2010

Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddigwyddiad blynyddol sy’n dathlu’r cyfraniad rhyfeddol a wneir gan filiynau o wirfoddolwyr ym mhob rhan o’r DU. Mae’r Wythnos yn gwneud cyfraniad pwysig i godi proffil y miliynau o wirfoddolwyr sy’n gwneud eu rhan yn rheolaidd i helpu eu cymdeithas, gan ysbrydoli eraill i gymryd rhan hefyd.

Yma yng Nghanolfan Gwirfoddol y Fro, yr ydym yn deall pwysigrwydd y rhan y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae ym mhob agwedd ar fywyd ein cymuned leol, nid yn unig y mae gwirfoddoli o fudd i’r gymuned leol, ond mae o fudd i’r gwirfoddolwr hefyd. Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn gyfle i ni ddiolch o galon i’r holl wirfoddolwyr ym Mro Morgannwg sy’n rhoi o’u hamser er mwyn achos da. Mae’r gwirfoddolwyr hyn hefyd yn cael profiadau gwerthfawr yn eu gwaith, a all eu helpu i ddilyn yr yrfa o’u dewis, yn ogystal â chael cyfle i gwrdd â phobl newydd, i ddysgu sgiliau newydd, magu hyder a hyd yn oed symud ymlaen i waith cyflogedig.

Mae gwirfoddoli’n rhywbeth buddiol dros ben i’r gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan, dyma beth oedd gan rai o wirfoddolwyr y Fro i’w ddweud am eu profiadau;

“Yr wyf wedi bod yn gwirfoddoli ers 20 mis. Yr wyf wedi bod yn gyfrifol am lawer o ddyletswyddau gwahanol fel ffeilio, llungopïo, ateb y ffôn a gwaith ar y gronfa ddata. Yr wyf yn teimlo bod y gwaith wedi fy ngwneud yn fwy hyderus ac wedi gwella fy sgiliau a fy mhrofiad mewn gwaith swyddfa. Yr wyf bellach mewn swydd amser llawn, a gwirfoddoli sydd wedi rhoi’r hyder i mi i gyflawni hyn.”

Gwirfoddolwr mewn Swyddfa

“Yr wyf yn fam i dri o blant ac yn gweithio’n llawn amser… yr wyf yn gwirfoddoli mewn maes mae gennyf ddiddordeb mawr ynddo a manteisiais ar y cyfle i wneud rhywbeth na fuaswn yn cael cyfle i’w wneud fel arall. Dim ond ychydig oriau’r wythnos mae’n ei gymryd ac mae’n ddigon hyblyg i’w wneud ochr yn ochr â fy ngalwadau eraill.”

Gwirfoddolwr Cymorth Cyntaf

“Yr oedd bod yn ddi-waith yn brofiad diflas iawn, a thrwy wneud gwaith gwirfoddol rwyf yn teimlo bod fy agwedd yn fwy positif a fy mod yn fwy brwd dros bethau. Mae’n braf cael defnyddio fy egni i wneud rhywbeth positif, ac mae hefyd yn rhoi trefn ar fy niwrnod.

 
Mae gweithio i gyflawni’r oriau i ennill tystysgrif Gwirfoddolwr y Mileniwm yn gymhelliad arall. Yr wyf wedi gosod nod i mi fy hun o gyrraedd 200 awr o waith gwirfoddol. Rwyf yn credu y byddai hynny’n rhywbeth gwerth ei roi ar fy CV.”

Gwirfoddolwr mewn Siop

 

“……Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli ers tua 6 mis bellach. Rwyf yn mwyhau gwirfoddoli gan ei fod yn gyfle i mi gwrdd â phobl newydd, i ddysgu sgiliau newydd ac mae’n ffordd o wneud rhywbeth positif â fy amser. Gobeithio y bydd y profiad yn help i mi ddod o hyd i waith cyflogedig.”

Gwirfoddolwr sy’n gwneud Gwaith Gweinyddol

Pam na fanteisiwch chi ar y cyfle yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr i holi am y cyfleoedd i wirfoddoli yn eich ardal leol. Yma yng Nghanolfan Gwirfoddol y Fro, mae gennym staff cyfeillgar wrth law a all eich helpu i ddod o hyd i gyfle sy’n addas i chi.

  • Wythnos y Gwirfoddolwyr

    Volunteering in Barry
  • Yn yr adran yma

  • Forthcoming Events

    Digwyddiadau yn y dyfodol

    • Penarth Volunteering Information Centre @ Penarth Library
      30.05.12, 12:00
    • Appreci8 Volunteers' Week Event @ Kings Square Barry
      09.06.12, 11:00
    See moreGwelwch mwy
  • Contact us

    To find out more and explore the opportunities please give us a call or drop in for a chat:

    Phone: 01446 421782
    Email: info@vvb.org.uk

    Cysylltwch a ni

    Am fwy o wybodaeth ac i weld y math o waith gwirfoddoli sydd ar gael rhowch galwad i ni neu galwch mewn am sgwrs:

    ffon: 01446 421782
    e-bost: info@vvb.org.uk