Gwirfoddolwyr y Mileniwm

Gwirfoddolwyr y Mileniwm

Cynllun cenedlaethol sy’n cydnabod gwirfoddolwyr rhwng 16 a 24 oed yw Gwirfoddolwyr y Mileniwm.  Y nod i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y cynllun yw cwblhau 200 o oriau o waith gwirfoddol yn ystod y flwyddyn.  Mae tystysgrifau ar gael i’r rhai sy’n cyflawni 50 a 100 o oriau a Gwobr Ragoriaeth ar gyfer y rhai sy’n cyrraedd y 200.

Bydd tystysgrifau’n cael eu cyflwyno’n rheolaidd yn ystod digwyddiadau arbennig Biwro Gwirfoddolwyr y Fro.

Mae gan brif gyflogwyr a’r Gwasanaeth Derbyn ar gyfer Prifysgolion a Cholegau olwg mawr ar gynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm, a chewch lawer o fudd o allu nodi ar eich CV neu’ch datganiad personol eich bod yn rhan ohono.

Felly, os ydych rhwng 16 a 24 oed ac eisoes yn gwirfoddoli, beth am ymuno â Gwirfoddolwyr y Mileniwm a chael manteisio ar bopeth sydd gan y cynllun i’w gynnig!

Os ydych yn meddwl am wirfoddoli neu newydd ddechrau gwneud hynny, dewch i ymuno â’r cynllun a chewch gyfrif eich oriau wrth fynd ymlaen!

Beth ddylwn i ei wneud nawr?

Anfonwch neges e-bost i

 Rachel@vvb.org.uk er mwyn cael pecyn cais, a chewch gofrestru drwy ei anfon yn ôl atom dros yr e-bost neu drwy’r post.  

Cewch hefyd glicio yma am Wybodaeth i Ddechreuwyr, Ffurflen Gais, Cynllun Gwirfoddoli a Chofnod Oriau sydd ar gael i’w lenwi ar-lein a’i anfon yn ôl dros yr e-bost.

Dylech gofnodi’ch oriau gwirfoddoli o’ch diwrnod cofrestru ymlaen.  Os buoch yn gwirfoddoli cyn cofrestru ar gyfer y cynllun, cewch wneud cais am ôl-ddyddio hyd at 50 o oriau.

Ar ôl cwblhau 50, 100 a 200 o oriau o waith gwirfoddol, dylech anfon eich cofnod(wedi’i lofnodi gan eich sefydliad) yn ôl i’r Biwro yn 34 Heol Holton, y Barri, CF63 4HD, er mwyn i chi gael eich tystysgrifau!