Dechrau Gwirfoddoli

Dechrau Gwirfoddoli

Sut mae dechrau gwirfoddoli?

Bydd pobl yn gwirfoddoli am bob math o resymau, ac y mae pob rheswm yr un mor ddilys â’i gilydd.  Efallai fod llawer o amser ar eich dwylo a’ch bod am wneud rhywbeth defnyddiol.  Efallai eich bod yn awyddus i ddefnyddio’ch sgiliau arbennig i helpu pobl eraill, neu efallai eich bod am fagu hyder a datblygu’ch sgiliau er mwyn cael gwell swydd yn y dyfodol.  Beth bynnag sydd gennych mewn golwg, dylech wirfoddoli’n anad dim am fod arnoch eisiau gwneud hynny.

Os ydych yn gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch a’r hyn yr ydych am ei gyflawni wrth wirfoddoli, rydych yn weddol sicr o ddod o hyd i rywbeth sy’n addas i chi.  Meddyliwch sut y gellwch  gyfrannu orau.

Gofynnwch y cwestiynau hyn i chi’ch hun:

Pa sgiliau sydd gen i, a beth yw fy niddordebau?

Beth ydw i’n hoffi ei wneud orau?

Ydy’n well gen i weithio gydag unigolion ynteu grwpiau?

Ydw i’n hoffi gwneud pethau sy’n dod yn rhwydd i fi neu a fyddai’n well gen i roi cynnig ar rywbeth hollol newydd ?

Beth yw’r cam nesa?

Gweld pa sefydliadau a pha waith gwirfoddol sydd ar gael i chi yw’r cam nesa.

Rhowch ganiad i ni am sgwrs gyfeillgar neu galwch heibio i’r Biwro a bydd aelod o’r staff yn fwy na bodlon trafod y dewis â chi.

Os ydych yn byw mewn rhan ddiarffordd o’r Fro, y mae croeso i chi ddod i un o’n cyfarfodydd yn y maes a holi’n staff yn y fan honno.

Cliciwch ar http://www.volunteering-wales.net/index.html er mwyn cael gweld pa fath o waith gwirfoddol sydd ar gael.