14 i 25?

Ydych chi rhwng 14 a 25 oed?

Os ydych rhwng 14 a 25 oed, beth am alw heibio er mwyn cael sgwrs am y math o gyfraniad y gallech ei wneud?  Cam bach tuag at wneud tipyn o wahaniaeth nid yn unig i’r byd o’ch cwmpas, ond i’ch bywyd eich hun hefyd, yw gwirfoddoli.

  Dyma rai o’r manteision:

  • Cewch ddysgu pob math o wahanol sgiliau ac ennill pob math o brofiad.
  • Cewch gyfle i wneud pethau na fyddech fyth wedi’u gwneud fel arall.
  • Cewch dystiolaeth arbennig o dda i’w hychwanegu at eich CV a’i chynnwys yn eich cais am goleg neu brifysgol.
  • Cewch gyfle i gael eich hyfforddi a’ch achredu’n rhad ac am ddim.
  • Cewch lenwi’ch amser â rhywbeth gwerth chweil a magu hyder.
  • Cewch flasu gyrfa sydd o ddiddordeb i chi.
  • Cewch dystysgrifau sy’n cydnabod eich llwyddiannau’n ffurfiol.
  • Cewch brofiadau unigryw a chyfle i gwrdd â phob math o bobl.
  • Cewch gyfle i adael eich stamp ar eich cymuned a newid pethau er gwell.
  • Cewch gyfle i wneud gwahaniaeth a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

Ellwch chi ddychmygu gweithio yn nerbynfa elusen, neu hyfforddi plant yn un o’ch hoff chwaraeon?  Efallai y byddai’n well gennych gael profiad mewn ysbyty neu ryw sefydliad gofal arall -  neu efallai eich bod yn fath o berson sydd ar ei orau’n gwneud gwaith ymarferol yn yr awyr agored ac yn ddigon bodlon cael tipyn bach o faw ar ei ddwylo.   Beth bynnag fo’ch dawn, boed ar gyfer dysgu neu godi arian, bydd gennym rywbeth ar eich cyfer!  Mae gennym rywbeth ar gyfer y rhai sydd am ddechrau gan bwyll yn ogystal â phobl sy’n chwilio am dipyn o sialens!

Ydych chi’n ddi-waith ar hyn o bryd a heb ymuno ag unrhyw gwrs addysg na hyfforddi hyd yma?  Os felly, go brin y cewch chi ffordd well o lenwi’ch amser tra’ch bod yn penderfynu beth i’w wneud nesaf, na gwirfoddoli!  Cewch dystiolaeth dda ar gyfer eich CV, byddwch yn cael dangos eich bod o ddifrif am eich gwaith, bydd patrwm i’ch diwrnod a bydd gennych gyfle hefyd i roi cynnig ar bethau newydd.

Felly, galwch heibio am sgwrs fach am y dewis sydd ar gael i wirfoddolwyr neu gadewch i ni gael eich rhoi ar ben y ffordd – a chofiwch ein bod yma i’ch helpu!

Anfonwch neges e-bost i  Rachel@vvb.org.uk , ffoniwch 01446 421782 neu galwch heibio i 34 Heol Holton, y Barri.