Am Gwirfoddolwyr

Gwirfoddoli – Dod o hyd i le sy’n addas i chi

Mae gwirfoddoli’n un o’r pethau mwyaf boddhaus y gellwch chi ei wneud â’ch bywyd.  Byddwch nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r elusen yr ydych yn ei chefnogi ond hefyd yn cael cyfle i ddatblygu’ch sgiliau, cwrdd â ffrindiau newydd a chael golwg ar fyd hollol newydd.

Gadewch i ni egluro i chi

Yma ym Miwro Gwirfoddolwyr y Fro, byddwn yn treulio pob eiliad o’r dydd bob dydd yn helpu pobl i ddod o hyd i’r math o waith gwirfoddol sy’n gweddu i’w sgiliau, eu personoliaeth a’u hamgylchiadau.

Gan ein bod yn awyddus i bawb gael profiad dymunol a buddiol o weithio’n wirfoddol, byddwn yn gwneud ymdrech go iawn i ddod i’ch deall chi.

Felly, beth am chwilio am fwy o wybodaeth, neu gysylltu â ni er mwyn cael cychwyn arni!

Does neb yn rhy ifanc i ddechrau

Byddwn yn helpu pobl o bob oedran i gael hyd i’r math o waith gwirfoddol sy’n gweddu orau iddynt, ond os ydych rhwng 14 a 25 oed gallwn eich helpu mewn sawl ffordd ychwanegol.

Boed yn wobrau a thystysgrifau, yn brofiad gwaith ynteu’n ffordd o lenwi bwlch yn unig, gallai’r hyn sydd gennych i’w ennill fel gwirfoddolwr ifanc weddnewid eich bywyd.  Darllenwch ragor yma neu cysylltwch â ni.

.

Chwilio ar-lein am waith gwirfoddol

Y brif fantais o weithio gyda’r Biwro yw y gallwn eich helpu i weld ymhellach na’r hyn sy’n amlwg a dod o hyd i waith gwirfoddol gwirioneddol dda ar eich cyfer na fyddech fel arall wedi sylwi arno efallai.

Os yw’n well gennych chwilio ar-lein eich hun am waith gwirfoddol, y lle gorau i ddechrau yw’r Gronfa Ddata Wirfoddoli Cymru Gyfan.

Os gwelwch rywbeth sy’n apelio atoch, y mae croeso i chi ddod i’w drafod â ni.

Featured organisation

First responders are ordinary members of the public who volunteer to assist the Welsh Ambulance NHS Trust in the provision of the 999 emergency response service .

They are called upon as the nearest resource in the community they live, whilst an ambulance is also en-route to the patient.

No previous experience is required as all training is provided, all applicants must be able to undertake a criminal records bureau enhanced check, ideally hold a full driving licence and be over 18 years of age.

To find out more about this and many other opportunities, please contact us.