-
Am Fudiadau

Forthcoming Events
Digwyddiadau yn y dyfodol
- Penarth Volunteering Information Centre @ Penarth Library
30.05.12, 12:00 - Appreci8 Volunteers' Week Event @ Kings Square Barry
09.06.12, 11:00
- Penarth Volunteering Information Centre @ Penarth Library
-
Contact us
To find out more and explore the opportunities please give us a call or drop in for a chat:
Phone: 01446 421782
Email: info@vvb.org.ukCysylltwch a ni
Am fwy o wybodaeth ac i weld y math o waith gwirfoddoli sydd ar gael rhowch galwad i ni neu galwch mewn am sgwrs:
ffon: 01446 421782
e-bost: info@vvb.org.uk -

Y Porth Ymgysylltu
Mae’r Canolfan Gwirfoddol y Fro yn helpu i ddosbarthu Y Porth Ymgysylltu
Mae’r Canolfan Gwirfoddol y Fro yn cynnig hyfforddiant, cefnogaeth ac arweiniad i sefydliadau yn y Fro sydd wedi llwyddo i gwblhau’s holiadur PQQ a sydd nawr ar rhetsr o cydgyflenwyr sydd wedi eu cymeradwyo gan Cydgyflenwyr. Am wybodaeth am sefydliadau hyn, cliciwch yma os gwelwch yn dda
Ynglŷn â’r Porth
Mae’r Porth yn un o gynlluniau Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd, y cynllun sy’n olynu Amcan 1.
Amcan y cynllun yw lleihau diweithdra yng Nghymru a gwella cyflogadwyedd pobl dan anfantais sy’n ei chael hi anoddaf i gael gwaith.
Pa fath o bobl sy’n cael eu hystyried fel rhai ‘sy’n ei chael hi anoddaf i gael gwaith’?
Bydd y Porth yn buddsoddi mewn sefydliadau sy’n targedu pobl sydd efallai wedi colli cysylltiad â’r gwasanaethau sylfaenol, neu mewn peryg mawr o orfod dibynnu ar fudd-daliadau hirdymor. Bydd y carfanau hyn yn cynnwys pobl sy dan anfantais benodol, fel:
Gallai grwpiau targed eraill gynnwys:
Pa fath o ganlyniadau sydd eu hangen i ennill cytundeb?
Diben y Porth yw rhoi cymorth i bobl weithio tuag at gael gwaith.
Bydd y Porth yn buddsoddi mewn sefydliadau sy’n cynnig gweithgareddau fydd yn meithrin medrau, hyder a dealltwriaeth y grwpiau targed ac sy hefyd yn cysylltu’r cynnydd hwn gyda ‘cham nesaf’ fel cyfeirio pobl at brosiectau eraill, gwirfoddoli, hyfforddiant, cyflogaeth dan gefnogaeth neu gyflogaeth lawn.
Tra caiff canlyniadau’r cytundebau eu diffinio gan Weithredu Gwirfoddol Cymru, gall mudiadau sy’n ceisio am gytundeb ddylunio gweithgareddau fyddai’n gweddu orau i’w grŵp dan sylw.
Pa sefydliadau sy’n gallu ymgeisio am gytundebau’r Porth?
Gall unrhyw sefydliad ymgeisio am gytundebau’r Porth.
Ni chaiff unrhyw sefydliad eu heithrio rhag ennill cytundeb oherwydd eu lleoliad daearyddol. Fodd bynnag, rhaid yw gweithio gyda phobl yn ardaloedd Cydgyfeiriant Cymru, ac mae Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn gobeithio cynyddu’r mewnbwn gan fudiadau Cymreig i’r cynllun.
Faint o arian mae’r Porth yn gallu buddsoddi mewn sefydliadau?
Bydd Lefel 1 yn cynnig cytundebau o hyd at £25,000 dros gyfnod o ddim mwy na dwy flynedd. Nid yw Cyllid Cyfatebol yn un o’r gofynion ar y lefel hwn, er nad ydym yn annog rhag gwneud hynny chwaith.
Bydd Lefel 2 yn cynnig cytundebau o £25,000 – £75,000 dros gyfnod o ddim mwy na dwy flynedd. Mae angen elfen o gyllid cyfatebol ar gyfer y lefel yma. (tua 30-40%)
Bydd Lefel 3 yn cynnig cytundebau o £75,000 – £150,000. Mae angen elfen o gyllid cyfatebol ar gyfer y lefel yma. (tua 50%)
Gall cyllid cyfatebol gynnwys cyfraniadau ariannol, cyfraniadau ar ffurf nwyddau neu amser gwirfoddoli.
Oes cefnogaeth ar gael wrth baratoi cais?
Mae cyngor ar gael yn lleol drwy Weithredu Merthyr. Eich Swyddog Cyswllt Porth Ymgysylltu yw Natalie Sargent Ffôn: 01446 421782
cliciwch yma i danfon e-bost
Er mwyn derbyn gwybodaeth ynglŷn â’r cytundebau gwaith mae cyfle ichi ymgeisio amdanyn nhw mae angen ichi fod ar y “rhestr darparwyr cymeradwy.” I wneud hyn mae angen i sefydliadau gwblhau ac anfon holiadur cyn-gymhwyster atom.
Mae’n bosib i sefydliadau fyddai’n hoffi trafod y drefn o ymgeisio am waith gan Y Porth cyn iddynt anfon holiadur gysylltu â desg gymorth Gweithredu Gwirfoddol Cymru drwy ffonio 0800288329 neu e-bostio