-
Am Fudiadau

Forthcoming Events
Digwyddiadau yn y dyfodol
- Penarth Volunteering Information Centre @ Penarth Library
30.05.12, 12:00 - Appreci8 Volunteers' Week Event @ Kings Square Barry
09.06.12, 11:00
- Penarth Volunteering Information Centre @ Penarth Library
-
Contact us
To find out more and explore the opportunities please give us a call or drop in for a chat:
Phone: 01446 421782
Email: info@vvb.org.ukCysylltwch a ni
Am fwy o wybodaeth ac i weld y math o waith gwirfoddoli sydd ar gael rhowch galwad i ni neu galwch mewn am sgwrs:
ffon: 01446 421782
e-bost: info@vvb.org.uk -

Buddsoddi Mewn Gwirfoddolwyr
Buddsoddi Mewn Gwirfoddolwyr – Y Safon Ansawdd am Rheolaeth Gwirfoddolwyr
Buddsoddi Mewn Gwirfoddolwyr yw’r safon ansawdd am holl sefydliadau yn yr UK sy’n cynnwys gwirfoddolwyr yn eu gwaith.
Mae’r safon yn galluogi sefydliadau i adolygu rheolaeth eu gwirfoddolwyr a hefyd dangos yn cyhoeddus eu ymrwymiad i gwirfoddoli.
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn rheoli Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yng Nghymru. Mae’r safonau, yr asesu a’r achredu yr un fath i bob mudiad sy’n defnyddio Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, ble bynnag y maent yn y DU. Rheolir y safon ychydig yn wahanol ym mhob gwlad.
I gael safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr drwy WCVA mae angen bod eich mudiad yng Nghymru gyda’i gyfeiriad cofrestredig a’i brif swyddfa yma hefyd. Bydd dau opsiwn i mudiadau sydd â diddordeb mewn Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ac sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
· Opsiwn 1: Mudiadau sy’n dymuno defnyddio Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr fel fframwaith a model ar gyfer gwella a datblygu eu harferion. Bydd y sawl sy’n dewis Opsiwn 1 yn gallu llwytho’r safonau i lawr yn rhad ac am ddim, drwy glicio ar y cyswllt ‘dogfen safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr’ yn adran Cymru ar y wefan http://www.investinginvolunteers.org.uk/ . Gallant ddewis ar unrhyw adeg cael eu hasesu i ennill statws Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr drwy symud ymlaen i Opsiwn 2.
· Opsiwn 2: Mudiadau sy’n dymuno cyflawni statws achrededig a chyflawni dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Mae gofyn i mudiadau gofrestru ar-lein, er mwyn gweld holl rannau perthnasol y wefan.
Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch a Natalie ar 01446 421782 neu danfonwch e-bost