Am Fudiadau

Dod o hyd i wirfoddolwyr sy’n addas i’ch sefydliad

P’un ai newydd ddechrau recriwtio y mae eich sefydliad, ynteu’n manteisio ar gymorth parod gwirfoddolwyr ers blynyddoedd, gall y Biwro eich helpu i ddod o hyd i’r rhai mwyaf addas a hefyd i’w rheoli a’u cadw.

Llwyddo gyda’n gilydd

Os bydd eich sefydliad eisioes yn defnyddio gwirfoddolwyr – neu os ydych wedi meddwl eu recriwtio – gallwn eich helpu gyda phob mater sy’n gysylltiedig e.e:

  • Help i recriwtio gwirfoddolwyr ifanc
  • Asesiadau ar gyfer y gweithle
  • Adroddiadau o’r Swyddfa Cofnodion Troseddol a chyngor ynglyn a gweithio gydag oedolion bregus a phlant
  • Treuliau gwirfoddolwyr a’u heffaith ar daliadau budd-dal
  • Enghreifftiau o’r arferion gwirfoddoli gorau

Cysylltwch a ni am fwy o wybodaeth.

Pob gwybodaeth sydd ei hangen

Ar y cyd â’n partneriaid yng Nghanolfan Gwasanaethau Gwirfoddol y Fro, yr ydym wedi llunio cyfres o daflenni gwybodaeth sy’n anhepgor i bawb sy’n rhedeg sefydliad dielw.

Mae’r taflenni’n trafod pob agwedd ymarferol a chyfreithiol ar gychwyn a rhedeg sefydliad di-elw’n llwyddiannus.  Fel y gellid ei ddisgwyl, y mae adran bur sylweddol am gydweithio â gwirfoddolwyr a’u recriwtio.

Cewch lawrlwytho taflenni gwybodaeth yma’n rhad ac am ddim.

Nawdd ar gyfer datblygu gwirfoddolwyr

Gallai unrhyw sefydliad sydd o ddifrif am helpu gwirfoddolwyr ifainc i ddatblygu a thyfu fod yn gymwys i dderbyn cryn dipyn o nawdd.

Cynllun cenedlaethol mawr ei barch sy’n cydnabod camp rhai ifainc sy’n llwyddo i gyflawni 200 o oriau o waith gwirfoddol yn ystod y flwyddyn yw cynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm.

Cewch ddarllen rhagor yma am y cynllyn hwnnw a’r gwaith cyd-drefnu y byddwn yn gweneud yn yr ardal.

Buddsoddi mewn gwirfoddolwyr

Safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw’r safon ansawdd Brydeinig ar gyfer pob sefydliad sy’n  rhoi lle i wirfoddolwyr.

Mae’r safon yn rhoi cyfle i sefydliad bwyso a mesur ei holl ffordd o reoli gwirfoddolwyr ac yn dangos ei fod wedi ymrwymo i egwyddor gwirfoddoli.

Ni yw’r aseswyr awdurdodedig ar gyfer safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni.